Impact data and claims within this report are provided by the project creator and have not been independently verified by Spacehive.
Mae Cyn-filwyr lleol yn dymuno i’w baneri seremonïol gael eu cadw. Fel ‘diolch’ am y gwasanaeth a roddwyd gan bersonél y Lluoedd Arfog ddoe a heddiw, beth am wneud i’r dymuniad hwn ddod yn wir.
This project is preparing for fundraising. Click Like to show your support, or Follow for updates on this project's journey.
Manylion
Mae aelodau o gymdeithasau cyn-filwyr lleol sy'n cynrychioli personél y Llynges, y Fyddin a'r Llu Awyr a fu'n ymladd yn Burma, Normandi, a Korea, a'r rhai a oedd yn perthyn i'r Wythfed Fyddin, am sicrhau bod eu baneri seremonïol annwyl yn parhau i gael eu rhannu gyda phobl Wrecsam, ymhell ar ôl iddynt farw. Maent yn dymuno cadw'r baneri, a'u rhoi i Amgueddfa Wrecsam.
Oherwydd nad yw'n ymarferol i'r amgueddfa gadw’r baneri’n barhaol, ein gweledigaeth yw eu harddangos yn Siambr y Cyngor yn Neuadd y Dref. Mae Siambr y Cyngor yn agored i'r cyhoedd, (er bod hynny drwy apwyntiad ar adegau), i weld y baneri, i ddysgu am yr hyn y maent yn ei gynrychioli, ac i gofio'r rhai a frwydrodd dros y rhyddid yr ydym yn ei fwynhau heddiw.
What we'll deliver:
Why it's a great idea:
Pam ei fod yn syniad gwych:
Mae ein cyn-filwyr yn dymuno rhoi eu baneri annwyl ni, i’w diogelu, i ddysgu oddi wrthynt, ac i’w gwerthfawrogi. Rydym yn ddyledus i'n cyn-filwyr am y rhyddid rydym yn ei fwynhau heddiw, ac rydym yn obeithiol y bydd pobl tref garsiwn Wrecsam yn croesawu'r cyfle hwn i ddangos eu parch a’u diolch i Bersonél y Lluoedd Arfog ddoe a heddiw drwy wneud cyfraniad.
Steps to get it done:
Mae pobl leol, yn eu plith personél yn Lluoedd Arfog ddoe a heddiw, wedi cymryd amser i egluro, ar ffilm, pam maent yn teimlo bod yr achos hwn yn deilwng o'ch cefnogaeth. Mae cyn-filwyr wedi rhannu eu hatgofion milwrol hefyd, ac rydym yn sicr y byddant yn rhoi cipolwg gwerthfawr i chi. Rydym wedi ffilmio 29 o glipiau, a byddwn yn rhannu un y dydd ar gyfryngau cymdeithasol, drwy gydol mis Chwefror 2016. Cofiwch ymuno â'n cynulleidfa drwy ein dilyn ni ar Trydar @wxmarmedforces, a’n hoffi ni ar Facebook tinyurl.com/npb55h3
Mae ffilm ein hymgyrch ar gael yma gydag is deitlau Cymraeg https://youtu.be/nsHBOpL9Aeo
Sylwer: Os ydych yn dymuno gwneud addewid, dilynwch y ddolen isod. Byddwch yn cael eich cyfeirio at ein tudalen ymgyrch a ysgrifennwyd yn Saesneg, oherwydd, ar hyn o bryd, nid yw’r fersiwn Gymraeg ar gael.
Dolen: https://www.spacehive.com/wrexham-honouring-veterans
Journey
Follow this project You are following this project for updates to your inbox
How will the money be spent?Total £
Costs Breakdown
This shows how money raised for the project will be spent. Before entering fundraising these costs will be confirmed by the project's Delivery Manager and verified by the verifier.
Total £
Our Volunteer List
Want to help?
Do you have stuff or skills to contribute to this project? Use this tool to offer something to the project creator.
Volunteer